Cyfarwyddwr Gweithredol - Adnoddau Corfforaethol

Newport, Newport
Apply Now

Rydym yn falch o fod yn cefnogi Cymwysterau Cymru gyda phenodiad Cyfarwyddwr Gweithredol Adnoddau Corfforaethol newydd.

Cymwysterau Cymru yw rheoleiddiwr annibynnol cymwysterau a'r system gymwysterau yng Nghymru. Mae'n gyfrifol am sicrhau bod cymwysterau a'r system gymwysterau'n effeithiol wrth ddiwallu anghenion rhesymol dysgwyr yng Nghymru, ac am hybu hyder y cyhoedd yn y rhain.

Gwybodaeth Allweddol

Lleoliad: Casnewydd gyda dull hybrid.
Contract: Parhaol ac amser llawn, gellir trafod ceisiadau am batrymau gwaith eraill yn y cyfweliad.
Cyflog: £92,000 - £101,000 yn dibynnu ar brofiad, ynghyd â phensiwn y gwasanaeth sifil (cyfraniad cyflogwr o 28.97%), 31 diwrnod o wyliau blynyddol, a buddion cystadleuol eraill. Gellid ystyried cymorth adleoli.
Dyddiad cau: 22 Mawrth 2026Pwrpas y Swydd

Gan adrodd i'r Prif Weithredwr ac fel aelod o'r tîm Gweithredol, bydd y Cyfarwyddwr Gweithredol - Adnoddau Corfforaethol yn cynnig arweiniad strategol i'r gyfarwyddiaeth Adnoddau Corfforaethol ac fe fyddant yn aelod gweithredol o'r tîm gweithredol gan gyfrannu at arweinyddiaeth ar draws y sefydliad cyfan.

Bydd deiliad y swydd hon yn bersonol gyfrifol i'r Prif Weithredwr am oruchwylio stiwardiaeth ariannol Cymwysterau Cymru, rheoli ei adnoddau a'i asedau dynol ac ariannol, cyflawni ei rwymedigaethau statudol a rheoleiddiol, a chydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol arall. Rhaid iddynt sicrhau bod safonau uchel o lywodraethiant corfforaethol ar waith, o fewn y gyfarwyddiaeth ac ar draws pob maes o'r sefydliad.

Bydd deiliad y swydd hon hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod y sefydliad yn derbyn gwasanaeth rhagorol gan dimau Adnoddau Corfforaethol i gefnogi ein gwaith rheoleiddio a pholisi mewn modd amserol a chost-effeithiol.

Crynodeb o'r Gofynion

Cymhwyster proffesiynol mewn o leiaf un arbenigedd corfforaethol (AD, TGCh, Cyllid (â chymhwyster gan CCAB), Llywodraethiant Corfforaethol, Cyfleusterau neu Gaffael).
Sgiliau arweinyddiaeth, rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol a'r gallu i gynrychioli'r sefydliad gyda chyrff cyhoeddus eraill, gan feithrin perthnasoedd sy'n arwain at gydweithrediad sydd o fudd i'r ddwy ochr.
Y gallu i ysbrydoli ac ysgogi gweithwyr proffesiynol trwy gyfnod o newid ac arloesi, wrth feithrin dulliau cyson ac atebol o weithio.
Profiad helaeth o weithio mewn rôl arweinyddiaeth strategol, sy'n gallu dangos hanes blaenorol mewn:
Rheoli swyddogaethau(au) corfforaethol er mwyn sicrhau bod y sefydliad y gweithredu'n ddidrafferth.
Ysgogi a gwella perfformiad a datblygiad staff
Cynllunio busnes a rheoli adnoddau
Cefnogi penderfyniadau sefydliadol trwy strwythurau llywodraethu cadarn
Arwain newid mewn systemau neu brosesau
Datblygu rheolaethau ac olrhain perfformiad i wella cyflawni a rheoli risg
Rheoli masnachol a rheoli cyflenwyrAm y cyfrifoldebau llawn, y gofynion a rhagor o wybodaeth, dewch o hyd i'r pecyn ymgeiswyr llawn ar ein gwefan.

I Wneud Cais

Mae Cymwysterau Cymru wedi cyflogi Acorn by Synergie i gefnogi a rheoli'r cylch recriwtio hon.

Os hoffech wneud cais, cyflwynwch y canlynol i'w hystyried cyn y dyddiad cau ar 22 Mawrth 2026:

CV wedi'i ddiweddaru
Datganiad ategol (uchafswm o 2,000 o eiriau) yn manylu ar eich cymhelliant dros wneud cais a'ch addasrwydd o ran manyleb y person sydd dan sylw.
Cwblhewch y Ffurflen Fonitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Ddienw.Ein bwriad yw cynnal cyfweliad 16 Ebrill yng Nghasnewydd.

Os oes gennych unrhyw broblemau gyda'r dyddiadau hyn neu os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol pellach arnoch fel rhan o'r broses, yna cysylltwch â Acorn by Synergie.

Edrychwn ymlaen at glywed gennych.

Acorn by Synergie acts as an employment agency for permanent recruitment

Job Info
CV-Library logo
Job Title:
Cyfarwyddwr Gweithredol - Adnoddau Corfforaethol
Company:
CV-Library
Location:
Newport, Newport
Salary:
£92000 - £101000 Per annum
Posted:
Mar 2nd 2026
Closes:
Apr 2nd 2026
Sector:
Management
Contract:
Permanent
Hours:
Full Time
Fresh Jobs
Welcome to Fresh Jobs the place to find the freshest job vacancies and career advice.

© Copyright 2026 | All Rights Reserved Fresh Jobs